Manylion y Tŷ
Mae lle i 14 gysgu yn Llwynfor mewn chwech llofft ar dri llawr.
Mae yma wres canolog olew a stof goed rhwng yr ystafell fyw a'r gegin. Mae’r wythnosau’n cychwyn ar ddydd Gwener ond croesawn wyliau byr tu allan i wyliau’r ysgol. Mae yma wifi drwy’r ty i gyd yn rhad ac am ddim. Darperir ddillad gwely a thyweli ynghyd a thyweli ar gyfer y twb poeth ac mae yma beiriant golchi a pheiriant sychu. Mae pecyn croeso o gynnyrch lleol a photal prosecco yn eich disgwyl. Rydym yn croesawu hyd at ddau gi @ £30 fesul ci fesul arhosiad ond rydym yn disgwyl i’r cwn a’r perchnogion ddilyn ein rheolau syml.
Mae gardd ac mae yna amryw o lefydd eistedd y tu allan i'r ty gyda dodrefn gardd. Mae twb poeth mawr, moethus, gyda `gazebo' yn le delfrydol i ymlacio ar ddyddiau braf neu glawog gyda golygfeydd o'r môr. Mae ystafell chwaraeon y tu allan yn cynnig lloches tywydd gwlyb gyda tenis bwrdd, bwrdd pel droed, `air hockey', bwrdd dartiau a bwrdd pwl.
Mae Llwynfor 4 milltir a bentref Aberdaron a 4 milltir o Sarn.
Gellir trefnu archeb gan un o'r archfarchnadoedd i Llwynfor yn ystod eich arhosiad. Y cod post yw LL53 8AF. Gofalwch eich bod yn y ty yn ystod yr amser danfon os gwelwch yn dda.
Cegin - mae'r gegin yn fawr ac addas ar gyfer criw mawr o bobl. Mae yma ddwy bopty, hob fawr, dau beiriant golchi llestri, oergell a rhewgell, popty meicro, peiriant coffi a digon o lestri a chelfi. Mae yma ddau fwrdd bwyta mawr sydd a lle i hyd at 20 o bobol yn gyfforddus. Mae lle ychwanegol ar yr ynys i weithio neu gellir ei defnyddio fel bar brecwast. Mae stof goed rhwng y gegin a'r ystafell eistedd ar gyfer misoedd y Gaeaf. Mae yma deledu. Mae gan y gegin wal o baneli gwydr er mwyn manteisio ar y golygfeydd godidog yn cynnwys dau ddrws patio yn arwain allan i batio gyda byrddau a chadeiriau. Mae BBQ nwy mawr ar gael.
Ystafell eistedd - gyda theledu a stof goed. Mae digon o briciau tan a choed ar gael drwy'r flwyddyn.
Ystafell fyw - ceir rhagor o le i eistedd ac ymlacio yn yr ystafell fyw gyda theledu a chwaraewr DVD. Yma rydym wedi cadw'r lle tan gwreiddiol gyda'i ddrych a theils browngoch.
Ystafell olchi - peiriant golchi a pheiriant sychu. Dyma le handi i gadw cotiau.
Ystafell gawod `wet room' gyda sychwr tyweli a gwres dan llawr.
Llofft rhif 6 - Dyma ystafell wely deuluol gyda gwely dwbwl (king) a gwlau bync. Mae yma ddrysau patio yn arwain allan i'r ardd a theledu. Ceir ystafell gawod `en suite' eto gyda sychwr tyweli a gwres dan llawr.
Yma rydym wedi cadw'r patrwm gwreiddiol gyda phedair ystafell wely yn y tu blaen i fanteisio ar y golygfeydd a dwy ystafell ymolchi yn y cefn.
Llofft rhif 1 - Gwely `King size'.
Llofft rhif 2 - Gwely dwbwl derw.
Llofft rhif 3 - Gwely `King size'.
Llofft rhif 4 - Dau wely sengl gyda grat teils o'r '20au a wal frics gwreiddiol y ty.
Ystafell ymolchi gyda bath.
Ystafell gawod.
Gwyliwch eich pen ar dop y grisiau os gwelwch yn dda - mae'r nenfwd yn isel!
Llofft gyda dau wely sengl.
Ystafell gawod
Ardal eistedd bychan gyda theledu a chwaraewr DVD. Dyma le ymlacio delfrydol i blant!
Adeiladwyd Llwynfor yn 1928 gan ddyn lleol ac fe'i defnyddiwyd fel ty teuluol am rai blynyddoedd. Mae diffyg gwybodaeth pendant ond fe'i ddefnyddiwyd fel llety i filwyr neu weithwyr y cloddfanau manganis yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Adeiladwyd nifer o estyniadau ar gyfer hyn. Fe'i werthwyd yn y '50au a defnyddiwyd yr ystafell chwaraeon/garij presennol fel caffi am ryw bum mlynedd - y `Llwynfor Tearooms'.
Yn y '60au gwerthwyd Llwynfor i fudiad elusennol a fu'n ei ddefnyddio fel llety tan 2013. Yn 2013 prynwyd y lle a'i ail-wneud yn gyfangwbwl i'r moethusrwydd presennol.