Datganiad Mynediad
Cyflwyniad
Ty o'r 1920'au yw Llwynfor gyda tri llawr a dau estyniad llawr isaf newydd. Mae wedi'i adeiladu ar ochr mynydd Rhiw felly mae stepiau i fyny i bob drws yn y tu blaen. Oherwydd hyn ac oed y ty teimlwn nad ydy Llwynfor yn addas ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn yn anffodus.
Mae larymau mwg yn gweithio efo trydan drwy'r ty i gyd ac mae'r rhain yn trosglwyddo i bwer batri pan fo'r trydan wedi'i ddiffodd. Mae golau argyfwng mewn mannau penodol drwy'r ty. Mae system drydanol y ty yn golygu fod tripswitch yn gweithredu os oes unrhyw broblem neu nam.
Tu allan i Lwynfor
Mynediad o'r tu blaen i'r ty
Gegin - mae mynediad i'r gegin o'r tu allan tros patio sydd a dwy step o'r man parcio.
Drws ffrynt - mae mynediad i'r drws ffrynt o'r tu allan dros ddwy step.
Llofft llawr isaf - mae mynediad i'r llofft hon o'r tu allan dros ddwy step.
Mannau parcio, ardaloedd tu allan a'r ardd.
Mae'r mannau parcio, ardaloedd y tu allan a'r ardd i gyd ar un lefel. Mae yna rywfaint o ddodrefn ardd ar y lefel yma. Mae'r prif patio fodd bynnag fyny dwy step ond gellir mynd ar y patio trwy fynediad gwastad o'r gegin.
Ystafell Chwaraeon - Mae mynediad i'r ystafell hon dros ddwy step.
Mynediad o gefn y ty
Cegin - mae drws trothwy isel yn darparu mynediad i'r gegin o'r cefn
Drws ystafell peiriant golchi
Mae drws trothwy isel i'r ystafell hon o'r tu allan.
Llawr Isaf
Mae'r ystafelloedd ar y llawr isaf ar un lefel.
Cegin
Ystafell eistedd
Ystafell fyw
Mynedfa
Ystafell olchi
Ystafell gawod
Ystafell wely ac ensuite.
Llawr canol
4 llofft (2 king, 1 dwbwl ac un efo dau wely sengl)
1 ystafell ymolchi efo bath
1 ystafell gawod gyda trothwy isel i'r gawod
Atic/llawr uchaf
Ystafell gawod gyda trothwy isel i'r gawod
Ystafell gyda dau wely sengl
Ardal eistedd bychan
Mae nenfwd isel i'r llawr uchaf mewn mannau.
Carol Thomas
Mehefin 2020