Dathlu/ Mwynhau

Os ydych yn dathlu achlysur arbennig neu am fwynhau gwyliau i'w gofio, gallwn eich cynorthwyo i drefnu arhosiad arbennig fydd yn ateb eich anghenion personol chi. Delfrydol ar gyfer penblwydd, penblwydd priodas, parti plu neu aduniad gyda ffrindiau da.

Mae cwmniau arlwyo lleol ar gael i ddarparu buffet, pryd `eistedd lawr', te prynhawn neu frecwast arbennig ac yn y blaen.

Mae'n bosib trefnu cacen arbennig (gwahanol feintiau ar gael). Gallwn ni sicrhau fod y gacen yn Llwynfor yn eich disgwyl a hynny gyda potel o siampen os ydach yn dymuno!

Mae'n bosib trefnu triniaethau harddwch i'w mwynhau yn y ty yn ystod eich gwyliau, o manicure, pedicure i facial neu fassage.

Cysylltwch am fwy o wybodaeth.