Llwynfor

Adeiladwyd Llwynfor ar ddiwedd yr 1920'au mewn man sydd â’r olygfa orau ym Mhen Llyn – dros Borth Neigwl draw am Fae Ceredigion a Sir Benfro ar ddiwrnod clir. Gwelir mynyddoedd Eryri a thu hwnt. Mae’r olygfa yn anhygoel ac mae’n amhosib peidio â chael eich denu i syllu ar yr olygfa fendigedig hon. Mae Llwynfor ar frig yr allt serth i fyny i bentref tawel Rhiw heibio giatiau Plas yn Rhiw – plasty bychan sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae Llwynfor 4 milltir o bentref Aberdaron.

 

Yn yr adran yma:-